Huw Arwystli

Oddi ar Wicipedia

Roedd Huw Arwystli (fl. 1542-1578) yn fardd canol oesol o blwyf Trefeglwys yng nghantref Arwystli, Sir Drefaldwyn[1]. Mae tua chant a hanner o'i gerddi ar gadw yn Y Llyfrgell Genedlaethol, Archif Prifysgol Bangor a'r Amgueddfa Brydeinig.[2]

Yn ôl y traddodiad roedd Huw yn ddyn cloff tlawd digartref, rhyw noson aeth i gysgu yn Eglwys Llandinam; wrth gysgu teimlodd bod rhywun wedi dod ato ac wedi gosod rhywbeth yn ei ben. Y bore wedyn derbyniodd cardod gan fenyw ac fe ddiolchodd iddi efo englyn cywrain, er na chanodd llinell o gan gynt; yr hyn oedd wedi ei brofi yn y nos oedd Duw yn rhoi dawn y bardd yn ei ben. Wedi hynny bu'n un o feirdd gorau a mwyaf toreithiog ei oes ac yn cael ei dderbyn i neuaddau'r uchelwyr i ganu iddynt a derbyn eu nawdd.[3]

Er ei fod wedi derbyn ei ddawn i ganu trwy wyrth mewn eglwys, doedd hynny ddim yn rhwystr iddo ddefnyddio ei ddawn i ganu maswedd, gan gynnwys, o bosib, y gerdd hoyw cyntaf yn y Gymraeg Mab wedi ymwisgo mewn Dillad Merch [4] (er bod rhai yn awgrymu mae gwawdio actor yn chware rôl merch ydyw yn hytrach na dyn yn draws wisgo am resymau nwydus).[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur HUW ARWYSTLI ( fl. 1550 )[1] adalwyd 8 Medi 2015
  2. Montgomeryshire worthies, Williams, Richard, 1894 t1 [2] adalwyd 8 Medi 2015
  3. "Notitle - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1909-09-02. Cyrchwyd 2015-09-08.
  4. Welsh LGBT Timeline t 5 [3] adalwyd 8 Medi 2015
  5. Gwisgoedd ac Ategolion yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol Alaw Mai Jones (Traethawd Prifysgol ar gael i'w lawrlwytho o [4] Archifwyd 2015-09-06 yn y Peiriant Wayback.)